Cyflwyniad i raglen datblygu llafaredd Cymraeg ‘Ein Llais Ni – Datblygu Siaradwyr y Dyfodol’

Bwriad Ein Llais Ni yw:

amlygu pwysigrwydd llafaredd yng nghwricwlwm yr ysgol ar draws pob maes dysgu a phrofiad ac yng nghyd-destun y Cwricwlwm i Gymru;
cynnig syniadau a strategaethau y gallwch eu datblygu er mwyn annog a hybu medrau siarad a gwrando Cymraeg eich dysgwyr yn y dosbarth;
darparu canllawiau i unrhyw un sy’n arwain y maes yn yr ysgol er mwyn rhoi lle amlwg a blaenllaw i lafaredd.

Wrth i bob ymarferydd roi sylw bwriadus i lafaredd a’r holl ffactorau sy’n gysylltiedig â datblygu medrau siarad a gwrando, fe fydd yn cael effaith gadarnhaol ar hyder a lles dysgwyr, cyfathrebu’n effeithiol gydag eraill a’u cefnogi i ddyfnhau eu dealltwriaeth ar draws y meysydd dysgu. Yn ystod y sesiwn, cewch gyflwyniad i wefan ‘Ein Llais Ni’ sy’n cynnig amrediad o ganllawiau a syniadau i ddatblygu’r amgylchedd ddysgu sy’n rhoi lle blaenllaw i lafaredd ar draws yr ysgol.

Nicola Hughes a Bleddyn Humphreys